SL(6)275 – Rheoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 2022
Cefndir a diben
Mae Rheoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 2022 (“y Rheoliadau”) yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Daliadau Amaethyddol (Ffi) 1996 (“Rheoliadau 1996”) a wnaed hefyd ar sail Cymru a Lloegr.
Mae’r Rheoliadau hyn yn cynyddu’r ffi statudol ragnodedig y caiff awdurdod proffesiynol ei chodi am benodi cyflafareddwr annibynnol i ddatrys anghydfodau neu i wneud rhai cofnodion mewn perthynas â thenantiaethau amaethyddol a reolir gan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986. Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod y ffi sydd i'w thalu yn £195. Y ffi gyfatebol a ragnodwyd o dan Reoliadau 1996 oedd £115.
Mae’r Rheoliadau hefyd yn rhoi dyletswydd statudol newydd ar Weinidogion Cymru i adolygu’r Rheoliadau bob pum mlynedd mewn perthynas â Chymru. Mae dyletswydd gyfatebol hefyd ar yr Ysgrifennydd Gwladol parthed Lloegr.
Gweithdrefn
Cadarnhaol drafft
Gosodwyd drafft o'r Rheoliadau gerbron Senedd Cymru a Senedd y Deyrnas Unedig. Rhaid i'r drafft gael ei gymeradwyo gan bob un o'r deddfwrfeydd hynny cyn y gellir ei wneud gan Ei Fawrhydi.
Materion technegol: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Gosodwyd drafft o'r Rheoliadau gerbron Senedd Cymru a Senedd y Deyrnas Unedig. Gwnaed y Rheoliadau yn Saesneg yn unig. Mae Memorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru yn nodi fel a ganlyn:
Gan y bydd yr offeryn hwn yn destun craffu gan Senedd y DU, ni ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol ei wneud na'i osod yn ddwyieithog.
Rhinweddau: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
28 Hydref 2022